Creative Exchange

L'ALBERO AC OPERASONIC MIS HYDREF 2019 - MIS MAWRTH 2020

Yn ystod tymor yr hydref 2019, bydd Cyfarwyddwr Creadigol Operasonic, Rhian Hutchings, yn ymweld â Matera yn ne'r Eidal i wylio'r tîm yn L'Albero wrth iddynt lwyfannu opera gymunedol newydd - Silent City - fel rhan o Matera 2019.

Yn ystod gwanwyn 2020, bydd cyfarwyddwyr L'Albero, Vania Cauzillo ac Alessandra Maltempo, yn ymweld â Chasnewydd i weld ystod o brosiectau Operasonic, gan gynnwys Vehicles a Caru'r Lysaght.

Cynhaliwyd y digwyddiad olaf ar-lein ym mis Tachwedd 2020 - Creu opera gyda chymunedau - Creare opera con la comunita.

Wedi'i ariannu gan British Council Wales fel rhan o'u rhaglen Cymru - Ewrop 2019.

Lalbero Logo BritishCouncil_Wales_RGB_2col