Côr Gypsy Stars

Mae Côr Gypsy Stars yn brosiect cerdd sy’n dathlu diwylliant Roma yng Nghasnewydd. Mae’n dod â phlant a theuluoedd Roma o bob rhan o Gasnewydd at ei gilydd i ganu a dawnsio, ac mae’n gydweithrediad rhwng Operasonic, Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Uwchradd Lliswerry a G-Expressions.

HAF 2022

Yr haf hwn rydym wedi bod yn dod â’r côr yn ôl yn fyw, yn cynnal sesiynau canu yn Theatr Glan yr Afon ac Ysgol Uwchradd Lliswerry, ac yn creu dawns arbennig i Hey Romale gan weithio gyda Mibinti Webbe o G-Expressions.

Yr haf hwn fe wnaethom berfformio yn y digwyddiadau canlynol:

Pop-up Gŵyl Maendy ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf ym Mharc Jiwbilî - perfformiad côr a Dawns Hey Romale, a gweithdai paentio dan arweiniad yr artist Robert Czibi.

Gŵyl Sblash Fawr ar ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf - perfformiad côr a Dawns Hey Romale

Llun: Martine Smith

Llun: Dilip Singh

Yn ystod y cyfnod clo, rydym wedi bod yn ymweld ag aelodau'r côr i ganu gyda nhw ar hiniog eu drysau, ac archwilio celf a dawns hefyd.

CANU GARTREF

Cyd-ganwch gyda Stacey gartref drwy wrando ar Sound Cloud. Os hoffech chi, gallwch anfon fideo atom hefyd. Anfonwch eich fideo at Rhian i rhian@operasonic.co.uk 

HER DYFRLLIW GYDA ROBERT CZIBI

Rydym wedi gwahodd yr artist Robert Czibi i greu'r fideos rhyfeddol hyn yn archwilio'r defnydd o ddyfrlliwiau. Cymerwch ran a rhowch gynnig ar beintio eich hunan!

EIN TîM

Arweinwyr y Côr: Rhian Hutchings a Stacey Blythe

Cymorthyddion y Côr: Diana Horvathova, Rhiannon Hunt a Martine Smith

Mae Côr y Gypsy Stars yn ddiolchgar am gyllid ar draws y prosiect gan Gyllidebu Cyfranogol Casnewydd, Cronfa Gymunedol Comic Relief, a hefyd am gefnogaeth gan Travelling Ahead, Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Uwchradd Lliswerry, Theatr Glan yr Afon, a Newport Fusion.