Crewyr Caneuon

GWEITHDAI CYFANSODDI CANEUON AR-LEIN A RHAD AC AM DDIM AR GYFER POBL IFANC, 14 - 25 OED.

Mae ein gweithdai cyfansoddi caneuon am ddim yn gyfle gwych i chi gael ychydig o gymorth ac adborth os ydych yn gerddor ifanc. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal gan gerddorion o Gymru, ac yn canolbwyntio ar wahanol genres, gan gynnwys cerddoriaeth boblogaidd, rapio a gwerin.

GWEITHDAI CYFANSODDI CANEUON GYDA FOXXGLOVE

4 Rhagfyr 2pm-4pm (Telyneg)

11 Rhagfyr 2pm-4pm (Telyneg)

8 Ionawr 2pm-4pm (Alaw)

15 Ionawr 2pm-4pm (Alaw)

MYNNWCH DOCYNNAU NAWR 

Bydd y gweithdai RHAD AC AM DDIM hyn yn rhoi amser i chi ymdrin ag ysgrifennu cân, a chael adborth ar eich cerddoriaeth. Bydd y ddwy sesiwn gyntaf yn cael eu cynnal y mis Rhagfyr hwn ac yn canolbwyntio ar delyneg, rhythm ac adrodd straeon, a bydd y ddwy sesiwn wedyn yn canolbwyntio ar Alaw a phrif sŵn. Mewn tair sesiwn yn para 2 awr yr un, byddwch yn dysgu am y broses o gyfansoddi caneuon gyda Foxxglove ac yn gweithio tuag at ysgrifennu eich cân eich hun.

Mae Foxxglove yn artist cerddoriaeth boblogaidd dywyll newydd o dde Cymru. Gan gymysgu dylanwadau o Halsey i Daughter a You Me At Six, mae ei hemosiwn pur ac agored yn amlwg ym mhob elfen o bob cân. Gan dynnu ar ei phrofiadau ei hun mewn bywyd i adrodd stori sy'n cipio calonnau pobl, mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r cynhyrchydd a'r artist, Minas, yn ogystal â bod yn rhan o 10 act Forté Project yn 2019. Cafodd Foxxglove ei sioe agoriadol fyw gyntaf ym mis Gorffennaf 2019, ac mae wedi llwyddo i dynnu sylw cynulleidfaoedd gyda'i sain goeth ochr yn ochr â'r gitarydd Jed Robertson. Aeth ymlaen wedyn i gyhoeddi ei sengl gyntaf, "City", yn 2020 a bydd yn cyhoeddi rhagor o gerddoriaeth maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gweithdai, cofiwch gysylltu â ni: kat@operasonic.co.uk

Ariennir Song Creators gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol a Moondance Foundation.