Recriwtio Ymddiredolwyr
Rydym yn mynd drwy gyfnod o ddatblygu’r sefydliad a chynllunio busnes. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiad ar lefel strategol yn y meysydd canlynol:
● Rheoli newidiadau
● Yr amgylchedd penodol (e.e. ar gyfer elusennau celfyddydol)
● Llywodraethu a deddfwriaeth/cydymffurfiaeth yng nghyd-destun elusennol
Gallai hyn fod drwy rôl lywodraethu neu wirfoddoli arall, neu drwy gyflogaeth â thâl. Yn ogystal â’r uchod, ac er mwyn ychwanegu at yr hyn sydd gennym ar y bwrdd, byddem yn croesawu unrhyw un sydd â sgiliau a phrofiad yn rheoli ac adnoddau dynol (HR) a/neu godi arian.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad da o wneud penderfyniadau strategol a gweithio fel rhan o fwrdd elusen, gan gynnwys dealltwriaeth o’r dyletswyddau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd cyfreithiol o fod yn gyfarwyddwr cwmni ac yn ymddiriedolwr elusen. Fel arfer, mae Bwrdd Operasonic yn cyfarfod bob chwarter, er ein bod ar hyn o bryd yn cyfarfod bob dau fis.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n rhannu angerdd dros gerddoriaeth a chymunedau Casnewydd, ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rôl ymddiriedolwr yw arwain strategaeth yr elusen a goruchwylio ei gwaith, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth a’n cenhadaeth, ac yn bodloni ein gofynion cyfreithiol, ariannu ac eraill.
Gallwch ddysgu mwy am rôl ymddiriedolwr ar wefan y Comisiwn Elusennau yma.
Mae Operasonic yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dysgu Cymraeg neu sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Byddai ein cadeirydd ymddiriedolwyr, Rhian Hutchings, yn hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau ac i drafod y rôl gyda chi. Felly, os hoffech drefnu galwad ffôn, anfonwch e-bost ati ar rhian@operasonic.co.uk.
Os hoffech wneud cais, anfonwch eich CV ac e-bost byr/llythyr eglurhaol at Rhian (drwy’r cyfeiriad e-bost uchod), gan esbonio pam mae’r rôl o ddiddordeb i chi a sut y byddai eich sgiliau a’ch profiad o fudd i Operasonic.
Fel dewis arall yn lle cyflwyno cais ysgrifenedig, gallwch sôn am eich sgiliau a’ch profiad mewn recordiad fideo/sain byr (hyd at dri munud). Rydym yn awgrymu defnyddio WeTransfer i anfon y fideo er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd yn llwyddiannus. Ar ôl i ni dderbyn eich mynegiant o ddiddordeb, bydd Rhian yn cysylltu â chi i gael sgwrs bellach am y camau nesaf.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig eraill er mwyn eich galluogi i wneud cais am y rôl hon, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at rhian@operasonic.co.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Mercher, 30 ain o Fedi 2026.
Pecyn Gwybodaeth Recriwtio Ymddiredolwyr Operasonic Haf 2026