Chwilio am ein Uwch Cynhyrchydd nesaf
Mae Operasonic yn chwilio am ein Uwch Gynhyrchydd nesaf i arwain y sefydliad i gam nesaf ei waith.
Rydym yn edrych am berson sy’n angerddol am gerddoriaeth a phobl ifanc ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yng nghymuned Casnewydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson trefnus ac sy’n cymryd yr awenau sydd â’r egni i yrru strategaeth, prosiectau a phartneriaethau. Bydd yn fedrus wrth gyfathrebu, cadw a datblygu perthynas, trefnu cyllideb a chynllunio digwyddiadau.
Bydd yr Uwch Gynhyrchydd yn gyfrifol i’r Cadeirydd Llywodraethwyr a bydd yn gweithio law yn llaw gyda’r Bwrdd Ymddiriedolwyr i gynllunio a datblygu gwaith.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod:
UWCH GYNHYRCHYDD PECYN GWYBODAETH
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 12 Ionawr 2024 am 5pm.
Cynhelir cyfweliadau ddydd Gwener 19 Ionawr.