N'in recriwtio

Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata
Disgrifiad Swydd
Oriau: 12 awr yr wythnos
Lleoliad: Casnewydd/Adre
Tâl: £12 yr awr
Cytundeb: Llawrydd

Profiad:
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddiddordeb neu rywfaint o brofiad mewn rhedeg platfformau ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol. Buasai'n ddymunol i fod yn gyfarwydd gyda Meta Suite a rhywfaint o wybodaeth am sut i ddiweddaru a rhedeg gwefan. Mae diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol.
Gan mai swydd lawrydd yw hon, bydd angen i'r dyddiau y byddwch yn gweithio fod yn hyblyg er mwyn mynychu ambell ddigwyddiad a rhannu'r cynnwys ar ein platfformau cymdeithasol. Gall hynny gynnwys rhai penwythnosau.
 

Y swydd:
-       Rhedeg Platfformau Cyfryngau Cymdeithasol (Facebook, Instagram, Trydar, Tiktok)
-       Creu a chyhoeddi cynnwys yn rheolaidd
-       Mynychu a chofnodi digwyddiadau
-       Creu ymgyrchoedd Cyfryngau Cymdeithasol
-       Helpu i greu gwefan newydd
-       Cynnal a diweddaru'r wefan
-       Rheoli cyfathrebiadau ar-lein
-       Gweithio ar y cyd gyda'n Cynhyrchydd Gweithredol â'n Harweinydd Datblygol.
-       Helpu'r elusen i ail-frandio.

Beth allwn gynnig:
Gallwn gefnogi hyfforddiant perthnasol sydd ei angen ar gyfer y swydd yma os oes angen, gan gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus i ennill sgiliau newydd i ddod yn aelod hyderus o dîm Operasonic. (e.e. https://www.a-m-a.co.uk/event/social-media-advertising/)
Sut i wneud Cais
Plîs e-bostiwch lythyr eglurhaol (uchafswm 2 dudalen) am eich profiad, pam fod gennych ddiddordeb, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall i yasmine@operasonic.co.uk

Ceisiadau'n cau - 5yh  Mehefin 16 2023

 
Fe fyddwn yn cysylltu gyda'r rhai hoffem eu cyfweld erbyn y 30ain. Mae'r dyddiad dechrau yn hyblyg ond yn ddelfrydol yng nghanol Gorffennaf.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!