Capsiwel Amser Coronafeirws

Mae Capsiwl Amser Coronafeirws yn brosiect sydd wedi'i greu gan Company 3 sy'n cael ei rannu gyda grwpiau o bobl ifanc ar draws y byd. Wythnos ar ôl wythnos, maent yn creu capsiwl amser fideo mwyfwy, gan recordio profiad pobl ifanc yn eu harddegau yn ystod pandemig coronafeirws.

Mae Operasonic wedi bod yn gweithio gyda grŵp o enethod blwyddyn deg o Gaerdydd i greu fideos bob wythnos yn seiliedig ar y themâu a osodir gan Company 3. Ewch i'n rhestr ganeuon ar YouTube i weld eu gwaith.

Mae Company 3 wedi gwneud ystod eang o adnoddau am ddim i unrhyw grŵp eu defnyddio fel rhan o'r prosiect hwn, ac wedi creu capsiwl amser cryno y gellir ei wneud mewn wythnos. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut allwch gymryd rhan yn y prosiect, ewch i www.companythree.co.uk