Folk of the Footbridge

MAE PROSIECT FOLK OF THE FOOTBRIDGE YN ADRODD STRAEON YR AFON WYSG, EI GLANNAU A'R BOBL SY'N EI CHROESI BOB DYDD.

Mae hanes yr Afon Wysg yng Nghasnewydd yn cael bywyd newydd mewn cydweithrediad newydd rhwng gwasanaeth amgueddfeydd a threftadaeth Casnewydd a Chyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd. 

Gan ddefnyddio pont droed canol y ddinas fel canolbwynt, mae'r prosiect yn rhannu straeon a gwaith celf gan breswylwyr ynghylch eu perthynas â'r afon a'u defnydd o'r bont droed.

Mae Operasonic a Tin Shed Theatre Company yn cydweithio gyda FONMAG ac Amgueddfa Casnewydd i greu tair taith gerdded ar bodlediad, gan gynnwys chwe darn o gerddoriaeth a gafodd eu comisiynu a'u recordio yn arbennig ar gyfer y prosiect.

Gallwch edrych ar y tair taith gerdded ar bodlediad ar dudalen Podlediad Folk of the Footbridge. 

 Houdini Arias - wedi'u cyfansoddi gan Helen Woods a phobl ifanc yng Nghasnewydd ar gyfer Opera Creators 2019. Perfformiwyd gan Helen Woods a'i ganu gan Dyfed Wyn Evans

Dragon's Breath - cyfansoddwyd gan Stacey Blythe a disgyblion o Ysgol Sain Silian yn 2015 ar gyfer Port Songs. Wedi'i ailgymysgu a'i ganu gan Rhian Hutchings

 Ebb and Flow - cyfansoddwyd a pherfformiwyd gan Mandy Leung

 The Ship - cyfansoddwyd gan Stephanie Irvine a pherfformiwyd gan Kate Willetts a Rachel Waters

Stave Bridge - cysyniad gan Bongo Peet, perfformiwyd gan Aled Evans gyda chynhyrchiad gan Jon Lilygreen

Journey with the Sewers - cyfansoddwyd gan Tayla-Leigh Payne a disgyblion Blwyddyn 4 o Ysgol Gynradd Clytha gan ddefnyddio synau wedi'u casglu gan y disgyblion.

Ariennir y prosiect drwy grant treftadaeth 15 munud gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dilynwch y prosiect ar gyfryngau cymdeithasol am straeon a gwybodaeth: @FolkoftheFootbridge neu https://folkofthefootbridge.blogspot.com/