Get Gigging
Nod Get Gigging yw cyrraedd cerddorion ifanc uchelgeisiol o rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Casnewydd a’u harfogi â’r wybodaeth ymarferol, yr hyder a’r ysbrydoliaeth i wneud yn union hynny; mynd i gigio.
Bydd cerddorion ar ddechrau eu gyrfa rhwng 14 a 21 oed yn cael y cyfle i berfformio fel rhan o ddigwyddiad arddangos a gynhelir dair gwaith y flwyddyn yn y lleoliad cerddoriaeth Corn Exchange Casnewydd, sydd â chapasiti o 500, lle gallant ddefnyddio offer proffesiynol o safon uchel a sgiliau peiriannydd sain profiadol. Fodd bynnag, gall hyn fod yn brofiad brawychus i’r rhai nad ydynt erioed wedi camu ar lwyfan proffesiynol, sydd heb y fraint o gael mentoriaid a pherfformwyr profiadol yn eu cylch, sydd heb yr arian i fynychu gwersi cerdd neu nad yw eu hysgolion yn cynnig TGAU na Safon Uwch mewn cerddoriaeth. Felly, bydd y perfformwyr hefyd yn cael y cyfle i fynychu tri gweithdy yn arwain at y diwrnod mawr. Bydd y gweithdai hyn yn tywys y cyfranogwyr drwy elfennau mwy ymarferol gigio; y pethau a all ymddangos yn amlwg i’r rhai sydd wedi bod yn ei wneud ers amser hir ond sy’n gallu bod yn ddirgel ac yn peri nerfusrwydd i’r rhai sy’n newydd i’r diwydiant…
Paratoi ar gyfer y gig (trwsio a gofalu am offerynnau, lle gallwch ymarfer yn lleol)
Rydych wedi cyrraedd y lleoliad; beth nesaf? (sut i wneud soundcheck, sut i diwnio eich offeryn)
Perfformio 101 (adeiladu persona llwyfan, beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le, beth allwch ei ddweud rhwng caneuon)
Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal gan fandiau o Gasnewydd sy’n adnabyddus ar y gylchdaith gigio ac sy’n gallu cynnig nid yn unig eu gwybodaeth a’u profiad ond hefyd straeon llwyddiant, modelau rôl a chyfleoedd rhwydweithio i’r rhai sydd newydd ddechrau. Yn y pen draw, nod Get Gigging yw sicrhau bod pawb yn teimlo’r un mor hyderus wrth gamu ar lwyfannau ein lleoliad.