Lysaght Musical

Dathlu'r Sefydliad Lysaght drwy Gân!

Mae disgyblion cerddoriaeth Ysgol Uwchradd Llysweri, gan weithio gyda'r cyfansoddwr Richard Barnard a'r cyfarwyddwr Kate Willetts, wedi creu saith cân hyfryd ynghylch y Sefydliad Lysaght ar hyd yr oesoedd: yn archwilio cerddoriaeth ac atgofion o adeilad y Sefydliad yn y 1920au; dawnsio gyda GIs yn y 1930au; disgos a phartïon y 1970au; yr adeilad yn adfail ar droad y ganrif; bywyd newydd wrth i'r adeilad gael ei ddefnyddio unwaith eto heddiw.

Roeddem yn bwriadu eu llwyfannu yn y Sefydliad ei hun ond nid oedd modd perfformio oherwydd y Cyfnod Clo. Felly, creasom sioe gerdd Lysaght rithiol ar-lein, yn gweithio gyda chantorion o'r Gymuned, Gobeithiwn y gwnewch ei mwynhau!

https://youtu.be/idDeyfwRtfk 

Geiriau gan Kate Willetts a Myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Llysweri. Cerddoriaeth gan Richard Barnard a Myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Llysweri. Crëwyd yn ystod Cyfnod Clo 2020.

Cantorion: Amanda Neville, Cariad Crawley-Jones, Carol Woodford, Kate Willetts, Phillipa Traynar, Rhian Hutchings, Simon Wallfisch, Stephanie Horsley, a'r Storïwyr - Chloe ac Ella-Mae.

Creodd Operasonic sioe gerdd Lysaght fel rhan o Caru'r Lysaght, prosiect cymunedol gan Linc Cymru ac fe'i hariannwyd drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Gweithiodd y prosiect gyda'r gymuned leol i ddatblygu darlun o hanes Sefydliad Lysaght Casnewydd, drwy straeon, gweithdai, digwyddiadau ac ymchwil.  O 1928, pan agorodd y Sefydliad Lysaght ei ddrysau am y tro cyntaf, hyd heddiw, mae'r lleoliad wedi creu atgofion i Gasnewydd ers dros 90 o flynyddoedd. Gyda diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect wedi clywed straeon personol, casglu lluniau ac atgofion, ac ymchwilio i beth o'r hanes lleol, gan roi'r casgliad ar Amserlen Lysaght i bawb eu trysori.

Diolch i bawb a gefnogodd y gwaith o greu'r Sioe Gerdd hon, yn enwedig Claire Maynard, Charlotte Granjon, Karen Jeffreys, Suzanne Bowers, Emma Newrick, a Naz Syed.

  • Cyfansoddwr, Piano a Sacsoffon: Richard Barnard
  • Cyfarwyddwr: Kate Willetts
  • Cantorion: Simon Wallfisch a Kate Willetts
  • Creu'r Fideo a Chymysgu Seiniau: C.O.B.R.A. Studios
  • Partner y Prosiect: Linc Cymru
  • Cynhyrchydd: Rhian Hutchings