Newport Legends

Beth a phwy yw hoelion wyth Casnewydd? A oes bwystfilod chwedlonol a arferai grwydro glannau'r afon Wysg ar un adeg? A oes aelod o gymuned Maendy sydd wedi arbed bywyd rhywun? Pa hen chwedlau mae neiniau a theidiau yn eu dweud wrth eu hwyrion ym Mhilgwenlli?

Rhwng mis Medi 2016 a mis Gorffennaf 2017, gwnaethom ddatgelu hoelion wyth Casnewydd drwy weithio gyda phobl ifanc lleol. Cafodd pob stori ynghylch hoelion wyth eu trawsnewid yn berfformiad sy'n dwyn ynghyd cerddoriaeth, adrodd straeon, dylunio a drama - holl gynhwysion opera.

Gweithiodd ein creawdwyr opera gyda chyfansoddwyr, cyfarwyddwyr a chantorion opera i greu eu cymeriadau a'u rhannu gyda'u cymunedau.

Ewch i gael cip ar sut aeth hi drwy wylio ein sioe ddogfen fer Newport Legends. Darllenwch yr adolygiad gan y wasg ac adolygiad o'r perfformiad terfynol.

Gallwch hefyd weld lluniau o'r gweithdai a lluniau o'r perfformiad terfynol yn ein canolfan gyfryngau.

Gweithiodd y prosiect gyda 253 o gyfranogwyr, 17 artist a chafodd ei berfformio gerbron cynulleidfa o 340 o bobl.

The Legend of the Flood: Mis Medi - mis Rhagfyr 2016

Ysgol Gynradd Gatholig Michael Sant gyda'r cyfarwyddwr Rhian Hutchings a'r Cyfansoddwr Helen Woods


The Legend of Tom Prothero: Mis Ionawr - mis Mawrth 2017

Ysgol Gynradd Clytha gyda'r cyfarwyddwr Hannah Noone a'r cyfansoddwr Richard Barnard.


The Legends of Twm Barlwm: Mis Mawrth - mis Gorffennaf 2017

Ysgol Gynradd St Woolos gyda'r cyfarwyddwr Pip Reeves a'r cyfansoddwr Stacey Blythe


The Legends of Maindee: Mis Rhagfyr 2016 - mis Gorffennaf 2017

Grwpiau amrywiol o Faendy gyda'r cyfarwyddwr Polly Graham a'r cyfansoddwr Jack White.


Perfformiad Terfynol Newport Legends: Dydd Sul 2 Gorffennaf 2017

Ar y cyd â Theatr Glan yr Afon, gwnaethom ddwyn ynghyd pedwar Newport Legends mewn perfformiad terfynol. Cafodd y pedair chwedl eu cysylltu drwy opera fer o straeon eraill ynghylch hoelion wyth yng Nghasnewydd, gan y cyfansoddwr opera o'r radd flaenaf, Errollyn Wallen.

Y Tîm Creadigol

Rhian Hutchings - Cyfarwyddwr Creadigol

Amy Morgan - Cynhyrchydd

Errollyn Wallen - Cyfansoddwr Legend Links

Seren Fenoulhet - Dylunydd

Newport Legends gyda chymorth gan Paul Hamlyn Foundation, Tŷ Cerdd, Casnewydd Fyw. Crëwyd mewn partneriaeth â Theatr Glan yr Afon.