Nightmare Scenario

Mae Aggie Cornog yn adrodd straeon, straeon o berygl a swyn, ond mae gan y stori ddychrynllyd hon ei bywyd ei hun. 

Mae merch ifanc, y mae ei rhieni yn dweud celwydd wrthi, a milwr sy'n cael ei fradychu gan ei arweinwyr, yn canfod eu hunain mewn byd o ryfel. does dim gobaith i'r naill na'r llall, oni ddywedir y gwir, a throi'r stori â'i phen i waered. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae angen ein help ar aggie!

Mae nightmare scenario yn ddirgelwch cerddorol blaengar a throchol sy'n gosod y gynulleidfa wrth wraidd y digwyddiadau ac yn rhoi'r penderfyniad terfynol yn ein dwylo ni.

Dydd Iau 11 Tachwedd 6.30pm

Dydd Gwener 12 Tachwedd 6.30pm

Dydd Sadwrn 13 Tachwedd | 1.30pm a 6.30pm

Theatr y Stiwdio, Theatr Glan yr Afon, Casnewydd

Tocynnau £8

Canllaw Oed: 7 +

Rhybuddion Peri Pryder: tanio gwn, ffrwydradau a synau sydyn

Cast

Michael Anthony McGee

Mimi Doulton

Sandeep Gurrapadi

Seren Vickers

Tîm Creadigol

Awdur: Martin Riley

Cyfansoddwyr: Stephen Deazley a Martin Parker

Cyfarwyddwr: Hannah Noone

Dylunydd: Ruth Stringer

Dylunydd Cyswllt: Sandra Gustaffson

Dylunydd Golau: Ace McCarron

Cynhyrchydd: Mehdi Razi

Prosiectau Cymunedol

Ochr yn ochr â’n cynhyrchiad o Nightmare Senario, rydym wedi creu amrywiaeth o brosiectau cymunedol sy’n rhoi’r cyfle i bobl adrodd eu straeon eu hunain trwy gân. Yn ystod hydref 2021 a gaeaf 2022 byddwn yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Gwynllyw, Ysgol Uwchradd Casnewydd, y grŵp cymunedol Coffi a Chwerthin, Gypsy Stars Choir, a byddwn hefyd yn cynnal sesiynau Crewyr Caneuon ar-lein.

Artistiaid Cymunedol yn arwain gwaith: Duncan Hallis, Nyla Webbe, Laura Bradshaw, Stacey Blythe a Foxxglove.

Caiff Nightmare Scenario ei ariannu a'i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ashley Family Foundation, Leys Developoment, Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd, Moondance Foundation, Tŷ Cerdd a Theatr Glan yr Afon.

Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i bawb a gefnogodd ein hymgyrch codi arian ar gyfer Rhaglen Breswyl Gymunedol Nightmare Scenario.