Opera Creators

Mae ein prosiectau Opera Creators yn dwyn artistiaid ynghyd â phobl ifanc i greu operâu byrion. Weithiau cânt eu cynnal mewn ysgolion. Weithiau maent yn dwyn teuluoedd ynghyd i berfformio yn ein gwyliau haf lleol yng Nghasnewydd. Mae ganddynt greadigrwydd wrth eu calon bob amser! 

PROSIECTAU BLAENOROL OPERA CREATORS

Opera Creators 2020 - Archwiliodd Ysgol Gynradd St Woolos stori Nicky Nicky Nye dros Teams gyda'r artistiaid Helen Woods a Dyfed Wyn Evans.


Opera Creators 2019 - Aeth pobl ifanc a'u teuluoedd ati i greu opera fer newydd o'r enw Breaking Out of the Box yn archwilio stori Houdini yn ymweld â Chasnewydd. Cymerodd ddisgyblion o Ysgol Maendy ac Ysgol Uwchradd Llysweri ran yn y broses ysgrifennu. Perfformiwyd yr opera yn Sblash Mawr 2019 gan gôr teuluol. Arweiniwyd y prosiect gan Helen Woods a Dyfed Wyn Evans, gyda'r gwaith dylunio gan Ruth Stringer.


Opera Creators 2018 - creodd bobl ifanc opera yn archwilio plastig yn y môr. Perfformiwyd yr opera yng Ngŵyl y Maendy. 


Mae Opera Creators wedi'i gefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru, The Moondance Foundation, The Santander Foundation, Tŷ Cerdd, a chaiff ei greu mewn partneriaeth â Gŵyl y Maendy, Theatr Glan yr Afon a Casnewydd Fyw.

 Moondance Logo

Ty-Cerdd

artscoucillwales