Vehicles
Taith operatig drwy'r gofod yn seiliedig ar hanes trafnidiaeth bodau dynol...
AR GYFER PLANT RHWNG 6 A 12 OED, A'U TEULUOEDD!
Mae Capten Houston ac Arglwydd Raglaw Schmidt yn cyfrif i lawr yn barod i gychwyn. Ond mae rhywbeth yn mynd o'i le! Ymunwch â nhw wrth iddynt gamu'n ôl mewn amser a gweld ceir, lorïau, beiciau, balŵnau a chychod o'u llong ofod anhygoel.
Tybed beth fyddant yn ei ddysgu ynghylch cerbydau a beth fyddant yn ei ddysgu ynghylch ei gilydd? Sut fyddant yn dychwelyd i'r presennol? Dewch ar ein taith operatig drwy'r gofod i wybod mwy!
Cast: Nia Coleman, Alice Privett, Peter Martin, Oscar Castellino
Cyfansoddwr - Martyn Harry / Cyfarwyddwr - Rhian Hutchings / Cyfarwyddwr Cerdd - Yshani Perinpanayagam / Dylunydd - Bethany Seddon / Dylunydd Goleuadau - Chris Illingworth / Gwneuthurwr Ffilmiau - Fez Miah & Lewis Monk / Cynhyrchydd - Laura Drane
Gwyliwch bob pennod yma
Mae Vehicles yn brosiect Addysg STEAM ac i gyd-fynd â'r opera rydym wedi creu cyfuniad arbennig o bum fideo ar gyfer disgyblion CA2 yn archwilio'r pwnc grymoedd. Cyflwynir y Rhaglen Hyfforddi Peirianwyr Gofod hon gan Gapten Houston, Cynorthwyydd Tech ac Emma, y dyfeisiwr.
Adnoddau Vehicles ar gyfer Ysgolion - Archwilio Grymoedd
Wedi'i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Brifysgol Rhydychen, y John Fell Fund, Casnewydd Fyw, Torch Research Centre ac Action Transport Theatre.