Cefndir Operasonic

PWY YDYM NI

Sefydlwyd Operasonic yn 2014 ac mae wedi'i leoli yng Nghasnewydd, de Cymru. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu grym creadigol i adrodd straeon a dathlu eu cymunedau ac agor y drws at gerddoriaeth fel ffordd o fynegi eu hunain.

Rydym yn credu bod creadigrwydd yn hawl ddynol. Mae'n galluogi dychymyg, chwilfrydedd, a chyfrwng, ac yn ein hannog i feddwl yn wahanol a bod yn empathetig.

Mae cymryd rhan wrth galon ein gwaith. Rydym yn frwd dros rym a photensial ein cymuned leol ryfeddol, amrywiol a chymhleth. Rydym am i gerddoriaeth fod ar gael i bawb yn ein cymuned – er mwyn rhoi llais, adrodd straeon, bod yn llawen, bod yn emosiynol, ac yn uchel ein cloch.

Cysylltwch â ni drwy ein tudalen Cysylltu â Ni.

EIN POBL

Cynhyrchydd Gweithredol - Beth House

Arweinydd sy'n Datblygu - Yasmine Davies

EIN BWRDD

Mae'r bobl hyfryd hyn yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn helpu i gynllunio'r holl waith a wna Operasonic.

Rhian Hutchings (cadeirydd), Catherine Dacey, Claire Turner, Jody Voyle, Shakira Mahabir.

CYSYLLTIADAU Â'R SECTOR

Mae Operasonic yn falch o fod yn aelod o'r rhwydweithiau canlynol:

Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru

RESEO - Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Addysg Opera a Dawns